Gwybodaeth & Chyngor
Os ydych chi’n fusnes sy’n ymwneud â cherddoriaeth, yn fusnes newydd neu â diddordeb yn y cyfleoedd gyrfaol y mae’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru’n eu cynnig, mae WMF yn darparu cyngor, cymorth a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddim.
Adnoddau
- Llyfrgell
- Cyfeirlyfr WMF 2006
- Cwestiynau cyffredin
- Sound Nation
Llyfrgell
Mae swyddfa WMF yn gartref i lyfrgell gynhwysfawr o adnoddau busnes cerddorol yn cynnwys cyfeirlyfrau’r diwydiant, cyngor ar redeg busnes a chanllawiau ar y ffordd y mae’r diwydiant cerddoriaeth yn gweithio – mwy o fanylion yma. I drefnu amser i ddefnyddio’n llyfrgell neu i drafod wyneb yn wyneb, cysylltwch â ni.
Cyfeirlyfr WMF 2006
Y Cyfeirlyfr yw’r ffynhonnell wybodaeth fwyaf cynhwysfawr ar fusnesau a gwasanaethau sy’n ymwneud â cherddoriaeth yng Nghymru. Mae pob proses yn y gwaith o gynhyrchu cerddoriaeth a’i chael i ddwylo’r defnyddiwr yn cael ei chynnwys yma. Mewn gwledydd eraill, mae gwasanaeth o’r fath yn costio’n sylweddol. Drwy’r WMF, gallwch gael y wybodaeth yma am ddim. Mae rhestr fanwl yn ein cyfeirlyfr. Mae’r cwmnïau ynddo’n amrywio o labeli recordio a chwmnïau cyhoeddi i fân-werthwyr a hysbysebwyr.
Cwestiynau cyffredin
Gallwch gael gafael ar wybodaeth am ddim yn syth bin yn ein hadran cwestiynau cyffredin. Dyma’r cyflwyniad delfrydol i’r meysydd allweddol y gall WMF roi cyngor a gwybodaeth yn eu cylch ac mae’n cynnwys atebion cynhwysfawr i’r cwestiynau a ofynnir amlaf i ni.
Sound Nation
Er nad ydym bellach yn cyhoeddi cylchgrawn Sound Nation, mae ôl-gopïau o lawer o rifynnau ar gael drwy ofyn amdanyn nhw ac mae gwefan Sound Nation yn dal ar waith. Edrychwch yn adran Sound Nation am fwy o wybodaeth.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Hefin ar 029 2049 4110 neu e-bostiwch hefin@welshmusicfoundation.com.

