Home > Cerddoriaeth - Cwestiynau Cyffredin > A-Y o Dermau

A-Y o Dermau

A-Y o Dermau

Termau A - Y

Rhestr o rai o’r termau a’r talfyriadau mwyaf cyffredin ym myd busnes cerddoriaeth. Os byddwch yn gweld fod gair ar goll ac yn credu y dylai fod yma, anfonwch e-bost i ymholiadau@welshmusicfoundation.com.
________________________________________

A&R
Yr adran mewn cwmni recordiau neu gwmni cyhoeddi cerddoriaeth sy’n gyfrifol am ddethol, meithrin a datblygu cyfansoddwyr, artistiaid, caneuon a recordiau newydd. Maent yn gweithio’n uniongyrchol â’r artistiaid a’r cyfansoddwyr caneuon ar y cyd â rheolwyr, cynhyrchwyr a cherddorion.

Adennill (cytundeb)
Mae ‘adennill’ yn golygu ad-dalu blaenswm i’r label recordio o freindaliadau a enillwyd drwy werthiant recordiau. Mewn egwyddor, bydd arian yn ddyledus gan artistiaid (sydd heb eu digolledu) i’w label recordio ac efallai y bydd yn rhaid prynu eu cyfran os byddant yn arwyddo gyda label arall.

Aggregator (digidol)
Mae ‘aggregators’ digidol yn cyflenwi islwythiadau gan labeli ac artistiaid i lawer (yn aml 20 neu fwy) o fanwerthwyr ar-lein, e.e. Napster, Real, Yahoo!

AIM
Cymdeithas Cerddoriaeth Annibynnol (Association of Independent Music) yw corff masnachol diwydiant recordiau’r DU ar gyfer labeli annibynnol. www.musicindie.com

Aimlabeldata
Mae Aimlabeldata yn darparu gwybodaeth i CatCo ar gyfer aelodau AIM.

Annibynnol
Fel arfer mae annibynnol yn golygu labeli recordio nad ydynt yn brif labeli.

APRS
Mae’r Association of Professional Recording Services yn hyrwyddo’r safonau uchaf o broffesiynoldeb ac ansawdd o fewn y diwydiant sain. Mae’r aelodau yn cynnwys stiwdios recordio, cwmnďau ôl-gynhyrchu, adnoddau gwneud prif gopďau, dyblygu ac adnoddau cerddoriaeth eraill a darparwyr addysg a hyfforddiant, yn ogystal â pheirianwyr sain annibynnol, cynhyrchwyr, cyflenwyr ac ymgynghorwyr. www.aprs.co.uk

ASCAP
Mae’r American Society of Composers, Authors & Publishers yn gymdeithas â mwy na 240,000 o aelodau Americanaidd sy’n cynnwys cyfansoddwyr cerddoriaeth, caneuon, geiriau, a chyhoeddwyr cerddoriaeth o bob math. Drwy lunio cytundebau â chwmnďau cyswllt rhyngwladol, mae ASCAP hefyd yn cynrychioli cannoedd o filoedd o rai sy’n creu cerddoriaeth drwy’r byd i gyd. www.ascap.com

Aseiniad (breindaliadau)
Gellir aseinio hawlfraint i label neu gyhoeddwr, neu drydydd parti megis mudiad casglu breindaliadau am gyfnod penodol o amser. Mae hyn yn caniatáu iddynt weithredu ar ran perchennog yr hawlfraint gan roi trwyddedau a chasglu breindaliadau yn unol â thermau’r aseiniad.

BACS
Sefydliad aelodaeth yw’r British Academy of Composers & Songwriters a sefydlwyd i gynrychioli llais yr aelodau gerbron y Llywodraeth. Gall yr aelodau fanteisio ar gynghorion arbenigol, gweithdai a gwasanaethau cefnogi. www.britishacademy.com

BCC
Mae British Copyright Control yn cynrychioli’r rhai sy’n creu, neu sydd â hawliau mewn gweithiau llenyddol, dramatig, cerddorol ac artistig, a rhai sy’n perfformio gweithiau o’r fath. www.britishcopyright.org.uk

Blaenswm (cytundeb)
Benthyciad yw blaenswm, a roddir fel arfer gan label recordio i artist, ac a fydd yn cael ei ad-dalu (adennill) drwy werthiant recordiau. Rhoddir blaenswm ar gyfer un albwm neu fwy, yn dibynnu ar y cytundeb. Byddai blaenswm cyhoeddwr yn cael ei adennill gan freindaliadau cyhoeddi.

BMI
Mudiad hawliau perfformio Americanaidd yw Broadcast Music Incorporated ac mae’n cynrychioli mwy na 300,000 o gyfansoddwyr caneuon, cyfansoddwyr cerddoriaeth a chyhoeddwyr cerddoriaeth yn achos pob math o gerddoriaeth. www.bmi.com

BMR
Mudiad ambarél yw’r British Music Rights sy’n cynrychioli buddiannau cyfansoddwyr, cyfansoddwyr caneuon a chyhoeddwyr cerddoriaeth. Mae BMR, a ffurfiwyd ym 1996 gan y British Academy of Composers & Songwriters, Music Publishers Association (MPA), Mechanical-Copyright Protection Society (MCPS) a’r Performing Right Society (PRS), yn lleisio’r farn gyffredinol gyda golwg ar hyrwyddo buddiannau’r rhai sy’n creu a chyhoeddi cerddoriaeth ar bob lefel. www.bmr.org

BPI
Y British Phonographic Industry yw corff masnachol diwydiant recordiau’r DU ar gyfer prif labeli a chwmnďau mawr annibynnol. www.bpi.co.uk

Breindaliadau
Ffioedd yw breindaliadau a delir i berchnogion hawliau (fel arfer labeli recordio, cyhoeddwyr, ysgrifenwyr a pherfformwyr) er mwyn defnyddio’u gwaith.

Breindaliadau Mecanyddol
Trwydded gyhoeddi yw trwydded fecanyddol i dalu i ysgrifenwyr am gopďau o gerddoriaeth sy’n chwarae’n fecanyddol. Bwriadwyd y rhain yn wreiddiol ar gyfer rholiau piano (taflenni tyllog oedd yn ‘gyrru’ pianos oedd yn chwarae’n awtomatig) i ddigolledu yn achos breindaliadau dalenni cerddoriaeth oedd yn cael eu colli. Heddiw mae breindaliadau mecanyddol yn cynnwys cryno ddisgiau, islwythiadau, ringtones, teganau cerddorol a ffeiliau MIDI, ac maent yn cael eu casglu yn y DU gan MCPS.

Business In Focus
Mae Business In Focus yn un o ddarparwyr gwasanaethau cefnogi busnes cynhwysfawr blaenllaw Cymru. Mae wedi ymrwymo i’w gwneud yn bosibl i gwmnďau bychain a chanolig gael dechrau da neu, unwaith y byddant wedi sefydlu, i dyfu ac i ddatblygu yn fusnesau cynaladwy a llewyrchus. www.businessinfocus.co.uk


Busnes Creadigol Cymru (Creative Business Wales)Enw blaenorol : ‘the Hub’. Mae Creative Business Wales yn adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gofalu am anghenion diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Busnesau Bach a Chanolig eu Maint (SME)
Yn ôl Comisiwn Ewropeaidd 2003, dyma’r diffiniadau o fusnesau bach a chanolig eu maint:
Busnes bach : gweithwyr <50 â throsiant <10 miliwn ewro.
Busnes canolig: gweithwyr <250 â throsiant <50 miliwn ewro.

CAE
Compositeur Auteur Editeur yw’r cod adnabod byd-eang mwyaf cyffredin ar gyfer ysgrifenwyr.

Caniatâd (Clearance) (hawlfraint)
Er mwyn cael yr hawl i ddefnyddio cerddoriaeth mewn rhai amgylchiadau mae’n rhaid cael caniatâd perchnogion yr hawlfraint. Mae angen caniatâd i gopďo, ac nid yn unig at ddefnydd masnachol. Fel arfer trefnir hyn drwy fudiadau trwyddedu a mudiadau casglu, ond gellir ei drefnu hefyd drwy labeli a chyhoeddwyr.

CatCo
System electronig yw CatCo sy’n anfon manylion recordiadau o labeli recordio i PPL ac MCPS. PPL sydd berchen ar CatCo ac mae’n rhad ac am ddim i aelodau PPL. www.catcouk.com

Cerddoriaeth Ddalen
Cerddoriaeth ddalen (nodiant, llyfrau ffug, sgorau, etc.) oedd man cychwyn cyhoeddi ond nid yw mor boblogaidd erbyn heddiw. Mae cyhoeddwyr yn parhau i gasglu breindaliadau yn achos papur printiedig a chopďau o gerddoriaeth ddalen wedi eu digiteiddio.

Cerddoriaeth Ffilm
Gall cerddoriaeth a recordiadau ar gyfer ffilmiau gael eu trwyddedu gan gyhoeddwyr a labeli recordio. Yn wahanol i drwyddedau ar gyfer darllediadau neu berfformiadau normal, nid yw cyfraddau’r trwyddedau ‘defnyddio prif gopi' a ‘sync’ hyn yn sefydlog, felly mae gwneuthurwyr ffilmiau (fideos, hysbysebion, etc.) yn trafod prisiau. Mae darparwyr cerddoriaeth llyfrgelloedd a chatalogau yn cynnig recordiadau parod, a ganiatawyd yn barod ar gyfer amrediad eang o gymwysiadau fideo (ac arall). Fel arfer, mae’r catalogau hyn yn cael eu trwyddedu drwy PPL, PRS ac MCPS.

Cerddorion Sesiwn
Mae cerddorion sesiwn yn derbyn un taliad unigryw (ac ni ddylai hwn fod yn llai na chyfradd Undeb y Cerddorion) am chwarae mewn sesiynau recordio.

CGC (CMW)
Corff ambarél ar gyfer cerddoriaeth gymunedol yng Nghymru yw Cerdd Gymunedol Cymru (Community Music Wales), ac mae’n darparu tiwtoriaid cymunedol hyfforddedig a phrofiadol, offer, cyngor a chefnogaeth i roi cyfle i bobl ysgrifennu, chwarae, recordio neu berfformio eu cerddoriaeth eu hunain. www.communitymusicwales.org.uk

Codau Bar (Cryno Ddisgiau)
Rhif y gellir ei ddarllen â pheiriant yw cod-bar (e.e. cod UPC) ac fe’i defnyddir i ddibenion amrywiol ym meysydd cynhyrchu, manwerthu a masnachu cryno ddisgiau. Nid dim ond adnabod cryno ddisgiau wrth y cownter yw gwaith codau bar, defnyddir hwy hefyd ar gyfer niferoedd y cryno ddisgiau siartiau a werthir. Mae rhai dosbarthwyr a manwerthwyr yn rhoi pwyslais ar ddefnyddio codau bar.

Copyleft
Trwydded hawlfraint yw Copyleft sy’n ceisio dosbarthu deunydd dan amodau 'eiddo'r cyhoedd' ac sydd ar yr un pryd yn sicrhau fod newidiadau yn y dyfodol ar gael i bawb yn yr un modd. Y prif amodau yw dosbarthiad di-dâl, credyd i’r dechreuwyr a’r un drwydded ar gyfer datblygu. Datblygwyd hyn yn wreiddiol ar gyfer meddalwedd, yna fe'i defnyddiwyd yn fwy eang ar gyfer cynnwys creadigol arall ar y we. Weithiau defnyddir symbol hawlfraint wedi ei gildroi i nodi copyleft, ond nid yw copyleft yn wrthwyneb i hawlfraint. Nid oes gan symbol copyleft unrhyw ystyr gyfreithiol.

Creative Commons
Mae Creative Commons yn defnyddio amrediad o drwyddedau hawlfraint ‘rhannu’n deg’ i becynnu syniadau copyleft ar gyfer cynnwys creadigol (Rhyngrwyd yn bennaf). Mae’n bwysig deall fod trwydded ddosbarthu am ddim yn rhywbeth parhaol ac na ellir ei diddymu. Defnyddir symbol sy’n cynnwys dwy lythyren ‘C’ yn aml i gynrychioli Creative Commons, ond y llaw-fer gywir yw’r symbol hawlfraint arferol.

Croes-warantu (cross-collaterise)
Mae croes-warantu yn golygu y gall label adennill blaenswm ar un albwm drwy werthiant albymau eraill. Fel arfer, bydd eich holl flaensymiau a’ch breindaliadau gydag un label mewn un lle.

Cwmnďau
Mae pobl yn endidau cyfreithiol: gellir eu trethu a’u herlyn. Mae gan gwmnďau (gan gynnwys partneriaethau cyfreithiol, etc.) statws tebyg. Nid oes raid i chi sefydlu cwmni cyfreithiol i ddechrau label recordio neu gwmni cyhoeddi ond efallai y bydd angen i chi sefydlu un yn ddiweddarach gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Cyfansoddiad wedi ei reoli (Controlled composition)
Cyfansoddiad sydd wedi ei ysgrifennu, ei gyd-ysgrifennu, sy’n eiddo i neu wedi ei reoli gan artist recordio yn unol â chytundeb recordio cyfyngol.

Cyfyngol (cytundeb)
Mae cyfyngol yn golygu mai rhai pobl yn unig a all wneud rhywbeth. Mae’n derm cytundebol sydd fel arfer yn rhwymo artist i un label recordio.

‘Cyfyrs’ (hawlfraint)
Gall unrhyw un ‘gyfro’ gwaith ysgrifennwr arall, yn unol â thermau aseiniadau PRS neu MCPS lle maent yn bodoli. Dan y trwyddedau blanced hyn telir incwm mecanyddol ac incwm perfformio i’r ysgrifennwr. Os nad yw’r gwaith yn cael ei aseinio i MCPS neu PRS dylid rhoi caniatâd 'cyfyr' drwy’r cyhoeddwyr.

Cyhoeddi
Arferai cyhoeddi gyfeirio at gaffaeladwyedd taflenni cerddoriaeth printiedig. Heddiw mae’n cyfeirio at gaffaeladwyedd deunydd hawlfraint mewn unrhyw ffurf.

Cyhoeddwr
Yn wreiddiol cwmni oedd yn cyhoeddi taflenni cerddoriaeth oedd cyhoeddwr cerddoriaeth. Mae recordiadau yn bwysicach yn y maes cyhoeddi heddiw. Nawr, mae cyhoeddwyr yn buddsoddi mewn ysgrifenwyr, yn hyrwyddo caneuon ac yn casglu enillion sy’n deillio o hawlfreintiau cyhoeddi.

Cyngor Cerddoriaeth Cenedlaethol (National Music Council)
Mae’r Cyngor Cerddoriaeth Cenedlaethol yn hyrwyddo buddiannau diwydiant cerddoriaeth y DU yn ei gyfanrwydd. Mae’n hwyluso rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau’r diwydiant a chyrff masnachol drwy gynnal cyfres flynyddol o ddarlithoedd a thrafodaethau, ac mae’n gyfrwng i hysbysu a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Mae NMC hefyd yn gyfrifol am brif brosiectau ymchwil, gan gynnwys ymchwil ystadegol o werth economaidd diwydiant cerddoriaeth y DU, sy’n cael ei ddiweddaru bob tair blynedd. www.musiced.co.uk/nmc.html

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys y 60 Aelod Cynulliad (ACau) sy’n cael eu hethol gan bobl Cymru. Maent yn cyfarfod mewn siambr yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru.
Y Cynulliad Cenedlaethol sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o wariant cyhoeddus yng Nghymru, ac mae ganddo bwerau i weithredu amrediad eang o ddeddfwriaethau eilaidd. Nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau i godi trethi. www.wales.gov.uk

Cytundebau Band
Mae cytundeb partneriaeth band yn egluro hawliau aelodau unigol band a sut y byddant yn cael eu talu. Os nad oes cytundeb band, bydd unrhyw beth na fydd yn perthyn i unigolion yn debygol o gael ei rannu’n gyfartal rhwng yr aelodau. Mae’n rhaid ffurfioli rhaniadau anghyfartal.

Chwarae ar yr Awyr (Airplay) (breindaliadau)
Mae darlledwyr yn prynu trwyddedau perfformio gan PPL (recordiadau) a PRS (cyfansoddiadau) i gael yr hawl i chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio. Mae rhai gorsafoedd radio mwy (yn cynnwys holl orsafoedd y BBC a rhwydwaith Music Choice Europe) yn darparu cofnodion defnydd llawn o’r holl gerddoriaeth maent yn ei chwarae i PPL a PRS, mae defnydd arall yn cael ei amcangyfrif drwy samplu dethol o’r hyn sy’n cael ei chwarae. Mae arian trwydded yn cael ei rannu rhwng aelodau ond didynnir comisiwn y cwmni.

Defnydd teg (hawlfraint)
Mae ‘defnydd teg’ (Fair Use) yn derm hawlfraint cerddoriaeth nad yw’n cael ei ddefnyddio yn y DU. Mewn rhai gwledydd (UDA, Canada, yr Almaen, Gwlad Belg, ac eraill) caniateir i brynwyr cryno ddisgiau wneud nifer o gopďau ar gyfer defnydd personol.

Delio Teg
Term y DU (Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988) ar gyfer eithriadau arbennig i ddeddf hawlfraint. Nid yw’r rhain yn cynnwys yr hyn sy’n cyfateb i gopďau (defnydd teg) personol.

Didyniadau (cytundeb)
Mae didyniadau neu ddisgowntiau yn gostwng y gyfradd breindaliadau sydd mewn grym. Gall cyfradd bennawd mewn cytundeb gael ei gostwng yn sylweddol gan gymalau sy’n ymwneud â thiriogaethau eraill, fformatau cerddoriaeth, etc. Bydd unrhyw ostyngiadau yn ymestyn y digollediad (sy’n pellhau'r dyddiad y bydd arian yn ddyledus i’r artist gan y label).

Digipak
Amrediad perchnogol o becynnu cryno ddisgiau (a DVDau) yw Digipak.

Diogelu-copďau (Copy-protection) (CD)
Mae prif labeli recordio yn defnyddio nifer o wahanol dechnegau diogelu-copďau ar gyfer rhai cryno ddisgiau sy’n cael eu rhyddhau. Mae’r rhain yn cael eu fformadu mewn ffordd ansafonol er mwyn rhwystro iddynt gael eu chwarae’n ‘normal’ mewn cyfrifiaduron personol.

Dosbarthu (Cryno ddisgiau)
Mae dosbarthu traddodiadol yn golygu symud cryno ddisgiau (neu recordiadau ffisegol eraill) o labeli recordio i fanwerthwyr. Nid cario bocsys o gryno ddisgiau yn unig yw gwaith dosbarthwyr - maent hefyd yn hyrwyddo ac yn buddsoddi mewn cryno ddisgiau sy’n cael eu rhyddhau.

Dosbarthu (Digidol)
Mae dosbarthu digidol yn golygu “symud ffeiliau cerddoriaeth yn electronig”. Fel arfer mae’n cyfeirio at yr hyn sy’n cyfateb ar-lein i ddosbarthu traddodiadol (symud islwythiadau yn hytrach na chryno ddisgiau). Gweler ‘aggregator’.

DRM
Dull o ddiogelu-copďau yw Digital Rights Management. Dyfais galedwedd neu feddalwedd ydyw sy’n gorfodi defnyddwyr i gydymffurfio ag amodau perchnogion hawlfraint.

Dyblygu (CD)
Mae cryno ddisgiau safonol yn cael eu ‘gwasgu’. Mae rhai dyblygwyr yn llosgi CD-Romau ac mae’r copďau hyn yn rhatach ond yn llai dibynadwy.

EAN
Gellir defnyddio codau ‘European Article Numbering’ ar gyfer codau bar yn Ewrop. Defnyddir codau UPC yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop.

Eiddo’r Cyhoedd (Public Domain)
Gwaith nad yw’n gymwys ar gyfer diogelu-hawlfraint (e.e. unwaith y bydd yr hawlfraint wedi dod i ben). Gall unrhyw un ddefnyddio gweithiau eiddo’r cyhoedd heb ofyn am ganiatâd blaenorol.

Finger print (digidol)
Mae ‘fingerprinting’ yn ffordd o adnabod ffeiliau digidol yn ôl patrymau yn eu data. Cod byr yw ‘fingerprint’ y gellir ei ddarllen â meddalwedd arbennig. Mae’n ffordd ddibynadwy o ddarganfod teitl a manylion eraill trac penodol. Weithiau gelwir ‘fingerprinting’ (yn anghywir) yn ‘watermarking’.

First use (UDA)
Defnyddir hyn yn yr Unol Daleithiau, nid yn y DU. Yn sgil trwyddedu mecanyddol gorfodol mae gan ‘first use’ ystyr arbennig yn yr Unol Daleithiau.

FLAC
Mae Ogg Free Lossless Audio Codec yn fformat ffeil cerddoriaeth poblogaidd a ddefnyddir i islwytho a chan chwaraewyr cerddoriaeth digidol. Yn wahanol i MP3, gellir chwarae’r ffeiliau yn ôl heb golli’r ansawdd gwreiddiol – dyna ystyr y gair ‘lossless’ yn yr enw. Mae’r ffeiliau tua hanner y maint gwreiddiol. Mae Ogg FLAC yn safon agored Xiph.org.

Ffonograffig (hawlfraint)
Mae ‘ffonograffig’ a ‘ffonogram’ yn hen dermau technegol am recordiadau sain. Mae’r hawlfraint ffonograffig yn rhoi hawliau i berchnogion recordio dros eu recordiadau.

Gweinyddiaeth Cyhoeddi
Mae gweinyddiaeth cyhoeddi wedi ei gyfyngu i gasglu breindaliadau— ni fydd y cyhoeddwr yn cael cwsmeriaid ychwanegol ar gyfer y cyfansoddiadau. Fel arfer, mae’r gyfradd ar gyfer gweinyddu oddeutu 10%.

Hawlfraint
Mae hawlfraint cerddoriaeth yn rhoi cefnogaeth gyfreithiol i grewyr a pherchnogion cynnwys yn achos rhai cyfyngiadau ar gopďo.

Hawliau Anghyfyngol (Non-Exclusive Rights)
Yr hawl i ddefnyddio hawlfraint mewn perthynas â gweithiau penodol (e.e. cyfansoddiadau, recordiadau sain, etc.) ar sail anghyfyngol. Gallai hyn olygu fod gan bartďon a chyrff eraill yr un hawliau defnyddio.

Hawl Perfformio (Performing Right)
Yr hawl cyfyngol i berfformio (yn fyw neu wedi ei recordio) gwaith yn gyhoeddus, a weinyddir ar ran cyfansoddwyr caneuon, cyfansoddwyr cerddoriaeth a chyhoeddwyr yn y DU gan PRS.

HDCD
Fformat disg cerddoriaeth Microsoft sy’n addas ar gyfer chwaraewyr cryno ddisgiau.

IFPI
International Federation of the Phonographic Industry yw’r corff masnachol rhyngwladol ar gyfer prif labeli a chwmnďau mawr annibynnol. www.ifpi.com

Indie
Mae Indie yn derm eang â llawer o ystyron cyffredinol. Mae’n cyfeirio at labeli recordio annibynnol, nifer o ffyrdd o weithredu busnes, amrywiol arddulliau o gerddoriaeth a nifer o athroniaethau.

Is-Gyhoeddi
Cytundeb lle mae cyhoeddwr yn caniatáu i gyhoeddwr tramor ddefnyddio, trwyddedu a chasglu incwm ar gyfer gweithiau penodol ar diriogaeth y cyhoeddwr tramor.

ISRC
Mae International Standard Recording Codes yn ddull o adnabod recordiadau (traciau).

ISWC
Mae International Standard Musical Works Codes yn ddull o adnabod cyfansoddiadau.

JOL
Mae’r Joint Online License yn drwydded gyfunol gan MCPS a PRS sy’n cwmpasu perfformiad a dyblygiad traciau ar-lein. Bwriedir hon ar gyfer safleoedd masnachol fel iTunes, nid safleoedd artistiaid.

Label Recordio
Yn wreiddiol cwmni oedd yn gwneud recordiadau oedd label recordio (roedd eu cwmni neu eu label argraffnod wedi ei lynu ar y canol). Heddiw prin iawn yw’r labeli recordio sy’n gwneud recordiau eu hunain, os oes rhai o gwbl. Nawr, mae labeli recordio yn buddsoddi mewn artistiaid, yn hyrwyddo recordiadau ac yn casglu enillion o hawlfreintiau ffonograffig.

Llygad Busnes
Gwasanaeth gwybodaeth diduedd a rhad ac am ddim i Gymru yw Llygad Busnes a grëwyd i ddarganfod atebion i gwestiynau busnes. Pa un ai ydych yn gwmni sefydledig, yn syniad newydd, yn unig fasnachwr neu’n gyflogwr cannoedd o weithwyr, gall Llygad Busnes eich rhoi mewn cysylltiad â chefnogaeth o’r sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol. www.llygadbusnes.org.uk

Llyfr Coch
Yr enw ar y llyfr rheolau technegol ar gyfer cryno ddisgiau sain safonol yw Llyfr Coch.

Llywodraeth Cynulliad Cymru (Ll.C.C)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol (gweler Cynulliad Cenedlaethol Cymru) wedi dirprwyo ei bwerau gweithredol i naw Gweinidog Cabinet sydd, gyda’i gilydd yn ffurfio Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn archwilio Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddemocrataidd. www.wales.gov.uk

Major
Prif label recordio. Y prif labeli recordio yw aelodau mwyaf cyrff masnachol y diwydiant recordiau (e.e. RIAA yn America a BPI yn y DU). Nid oes diffiniad penodol— y prif labeli yw’r labeli sy’n gwerthu’r nifer mwyaf o recordiau. Mae’r nifer wedi lleihau dros y blynyddoedd.

MCPS
Mae’r Mechanical Copyright Protection Society yn rhoi trwyddedau ar gyfer copďo recordiadau (gweler ‘mecanyddol’) ac yn casglu breindaliadau.

MMF
Sefydliad aelodaeth yw The Music Managers Forum sy’n rhoi cyfle i’w aelodau rannu a dysgu gan ei gilydd. Mae hefyd yn llais o fewn y diwydiant a gerbron y llywodraeth. www.musicmanagersforum.co.uk

MPA
Mae’r Music Publishers Association yn gofalu am fuddiannau’r holl gyhoeddwyr cerddoriaeth sydd wedi eu lleoli neu’n gweithio yn y DU. Pwrpas y gymdeithas yw gwarchod a gwella’r busnes a’r byd cyfreithiol lle mae ei haelodau yn gweithredu. www.mpaonline.org.uk

MP3
Fformat ffeil cerddoriaeth poblogaidd yw MP3 a ddefnyddir i islwytho ac ar gyfer chwaraewyr cerddoriaeth digidol. Mae meintiau’r ffeiliau fel arfer tua degfed ran y maint gwreiddiol. Dyfeisiwyd MP3 ym 1987 ac roeddynt ar gael i’r cyhoedd o 1995 ymlaen. Mae MP3 yn safon MPEG.

Mudiadau casglu
Mae mudiadau casglu yn rhoi trwyddedau i ddefnyddwyr cerddoriaeth ac yn rhannu ffioedd y trwyddedau rhwng perchnogion hawlfraint (labeli recordio, cyhoeddwyr, ysgrifenwyr a pherfformwyr fel arfer).

National Band Register
Mae hwn yn cynghori ac yn helpu gyda golwg ar warchod enwau bandiau – mae’n darparu gwasanaeth chwilio er mwyn penderfynu a yw enw band yn cael ei ddefnyddio yn gyfredol. www.bandreg.com

Neighbouring rights (hawlfraint)
Mae ‘neighbouring rights’ fel arfer yn cyfeirio at recordiadau yn hytrach na hawlfraint y cynnwys ei hun. Mae hawliau perfformwyr a darlledwyr i recordiadau o’u gwaith yn ‘neighbouring rights’.

Nesta
Ystyr NESTA yw The National Endowment for Science, Technology and the Arts. Dyma’r gwaddoliad unigol mwyaf a gyflwynir yn gyfan gwbl i gefnogi talent, arloesiad a chreadigrwydd yn y DU.

Nod masnach (Trademark)
Mae diogelu nod masnach yn gyfreithiol yn ymwneud â chamddefnyddio ased busnes, camarwain, a drysu cwsmeriaid posibl. Nid yw’n hawl cyfyngol i’r enw nod masnach.

Ogg
Cynhwysydd yw Ogg ar gyfer amrediad o fformatau ffeil cerddoriaeth a ddefnyddir i islwytho ac ar gyfer chwaraewyr cerddoriaeth digidol. Defnyddir Ogg gyda FLAC a Speex ond fel arfer mae’n cyfeirio at y lossy codec, Vorbis. Fel arfer mae meintiau’r ffeiliau tua un rhan o ddeg o’r maint gwreiddiol. Dyfeisiwyd y Xiph codecs i wrthsefyll bygythiad trwyddedu MP3 caeedig. Mae Ogg Vorbis yn safon agored Xiph.org.

Opsiwn (cytundeb)
Fel arfer opsiwn i ymestyn term cytundeb yw opsiwn ond nid yw’n golygu fod gan bawb opsiynau. Weithiau gan y label yn unig mae’r opsiwn a gall fod yn awtomatig.

Overides
Gweler ‘Pwyntiau’.

PAMRA
Mae The Performing Artists’ Media Rights Association (P@MRA neu PAMRA) yn casglu breindaliadau perfformwyr gan PPL ac yn talu’n uniongyrchol i’r artistiaid. Defnyddir P@MRA yn bennaf gan gerddorion sesiwn. www.pamra.org.uk

Podcast
Sioeau sain (neu fideo) y gellir eu hislwytho yw Podcastau ac y gallwch wrando arnynt ar eich cyfrifiadur, neu ddeisyfau chwarae MP3 symudol neu y gallwch hyd yn oed eu rhoi ar gryno ddisgiau sain cyffredin. Y syniad yw eich bod yn tanysgrifio iddynt, a phan fydd sioe newydd yn cael ei chyhoeddi bydd yn islwytho’n awtomatig i’ch peiriant. Mae’r rhain hanner ffordd rhwng sioe radio a thanysgrifiad i gylchgrawn.

PPL
Mae Phonographic Performance Limited yn cyhoeddi trwyddedau ar gyfer chwarae recordiadau ac yn casglu breindaliadau ar gyfer labeli recordio. Maent hefyd yn dosbarthu breindaliadau perfformwyr o recordiadau. www.ppluk.com

Prif Gopi (Master)
Recordiad gwreiddiol wedi ei olygu’n llawn a’i gymysgu, o gân gan artist a recordiwyd yn flaenorol gan rywun arall.

PRS
Mae’r Performing Rights Society yn cyhoeddi trwyddedau ar gyfer cerddoriaeth sy’n cael ei pherfformio ac yn casglu breindaliadau. www.prs.co.uk

PRSF
Elusen gofrestredig yw’r Performing Rights Society Foundation ac mae’n cynnig gwobrau ariannol i fudiadau sy’n annog, hyrwyddo a chynnal creu a pherfformio cerddoriaeth. www.prsf.co.uk

Pwyntiau (breindaliadau)
Pwynt canrannol yw pwynt (un rhan o gant, neu geiniog yn y bunt). Fel arfer mae hyn yn ymwneud â breindaliadau. Nid yw’r cyfanswm (100%) bob amser yn amlwg.

P2P
Ffordd o rwydweithio cyfrifiaduron dros y Rhyngrwyd yw P2P fel y gallant gyfnewid ffeiliau yn uniongyrchol. Mae ganddo nifer o gymwysiadau cyfreithiol.

Recordiad Sain
Recordiad o seiniau y gellir ei ddefnyddio i wneud atgynhyrchiadau.

Refersiwn (hawlfraint)
Refersiwn yw pan fydd aseiniad hawlfraint yn gorffen. Fel arfer mae aseiniadau wedi eu cyfyngu i gyfnod o amser neu i ryw amod arall sy’n dibynnu ar amgylchiadau perchennog yr hawliau gwreiddiol.

RIAA
The Recording Industry Association of America yw corff masnachol diwydiant recordiau’r Unol Daleithiau.

Rheoli hawlfraint (Copyright control)
Mae rheoli hawlfraint yn golygu fod hawlfraint yn cael ei chadw gan yr ysgrifennwr ac nad yw’n cael ei haseinio i drydydd parti.

Rhyddhau
Roedd y broses o ryddhau recordiau ffisegol (finyl, casetiau, cryno ddisgiau) i’r radio a manwerthwyr bob amser yn rhywbeth trefnus a ffurfiol. Roedd rhyddhau record fawr yn achlysur fel premičre ffilm o bwys. Mae hyn yn parhau i ddigwydd yn gyffredinol ond mae cyflwyno cynnwys ar wefan artist annibynnol fel arfer yn llai ffurfiol o lawer.

Samplu
Y weithred o gopďo rhan o un recordiad sain yn ddigidol a’i ail ddefnyddio mewn recordiad newydd. Gwneir hyn gan ddefnyddio sampler. Gall hwn fod yn ddarn o galedwedd, neu’n gymhwysiad meddalweddol wedi ei ddefnyddio drwy gyfrwng cyfrifiadur. Gan ddibynnu ar hyd y sampl a sut y mae’n cael ei ddefnyddio, gallai samplu heb ei awdurdodi gael ei ystyried yn drosedd hawlfraint gyda golwg ar y recordiad sain gwreiddiol y tynnwyd y sampl ohono a’r hawlfraint yn y gwaith cerddorol gwreiddiol.

SCMS
Mae’r Serial Copy Management System yn rhwystro cyfryngau digidol sydd wedi eu rheoli rhag cael eu copďo ar beiriannau arbennig drwy osod marciwr ar recordiadau newydd. Ni ellir copďo recordiadau sydd wedi eu marcio yn y peiriannau hyn eto. Mae SCMS yn rhan o’r fformat Sony/Philips Digital Interface (S/PDIF).

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol
Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yw’r Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Hysbysebu, Crefftau, Treftadaeth ddiwylliannol, Dylunio, Cerddoriaeth, y Celfyddydau Perfformio, Llenyddol a Gweledol. Mae’n gorff a arweinir gan y diwydiant sy’n addo bod â dylanwad gwirioneddol ar gyflenwad addysg a sgiliau ledled y DU.
www.ccskills.org.uk

Syncroneiddio
Cynnwys recordiad sain mewn trac sain gwaith clyweledol, megis ffilm, rhaglen neu hysbyseb teledu.

TAW
Treth ar werthiant yn y DU.

Tiriogaeth
Yr ardal ddaearyddol lle caniateir i gwmni recordiau neu gwmni cyhoeddi ddefnyddio recordiadau sain a chyfansoddiadau yn gytundebol.

Treth Cyfryngau Gwag (Blank Media Levy)
Mae rhai gwledydd yn gosod treth ar CD-R, casetiau, cyfryngau a chwaraewyr gwag eraill i ddigolledu yn achos copďo anghyfreithlon tybiedig. Yn yr UE mae trethi cyfryngau gwag yn bodoli yn yr Almaen, Ffrainc, Yr Eidal, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Awstria, Gwlad Belg a Gwlad Groeg. Mae Gwlad Pwyl, Hwngari, Latfia, Slofenia, Lithwania, Slofacia, y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Cyprus a Malta yn bwriadu gweithredu trethi, neu wedi gwneud hynny’n ddiweddar. Ceir trethi cyfryngau gwag hefyd yng Nghanada a rhai gwledydd sydd heb fod yn aelodau o’r UE.

Trwydded Blanced (Blanket Licence)
Trwydded (a roddir fel arfer gan fudiad casglu) sy’n awdurdodi corff (er enghraifft y BBC) i ddefnyddio’r holl recordiadau neu ganeuon y mae’r mudiad casglu yn berchen arnynt neu yn eu rheoli, a hynny mewn ffordd benodol.

Trwydded Defnyddio Prif Gopi (Master use licence)
Mae trwydded defnyddio prif gopi yn drwydded hawlfraint ffonograffig i dalu i berchnogion recordio am gerddoriaeth a ddefnyddir mewn ffilmiau, fideos, neu draciau sain teledu. Nid oes ffi sefydlog ar gyfer trwyddedau defnyddio prif gopi.

Trwydded Lleoliad (Venue Licence)
Mae lleoliadau yn prynu trwyddedau perfformio gan PPL (recordiadau) a PRS (cyfansoddiadau) i gael yr hawl i chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio. Mae lleoliadau mawr yn darparu cofnodion defnydd llawn o’r holl gerddoriaeth maent yn ei chwarae i PPL a PRS. Mae arian trwydded yn cael ei rannu rhwng aelodau ond didynnir comisiwn y cwmni.

Trwydded Orfodol (Compulsory license) (UDA)
Mae hyn yn gymwys yn yr Unol Daleithiau, nid yn y DU. Pan fydd cân yn cael ei chyhoeddi yn yr Unol Daleithiau gall unrhyw un ei ‘chyfro’. Mae’n drwydded fecanyddol.

Trwydded ‘Sync’
Trwydded gyhoeddi yw trwydded ‘sync’ i dalu i ysgrifennwyr am gerddoriaeth a ddefnyddir mewn ffilmiau, fideos neu draciau sain teledu. Nid oes ffi sefydlog ar gyfer trwyddedau sync.

Tymor (cytundeb)
Mae ‘tymor’ yn golygu cyfnod; pa mor hir mae rhywbeth yn parhau mewn cytundeb.

UKPS
Mae UK Performer Services yn talu breindaliadau chwarae ar yr awyr i artistiaid a cherddorion sesiwn a recordiwyd. www.ppluk.com

Undeb y Cerddorion (Musicians’ Union)
Mae Undeb y Cerddorion yn cynrychioli mwy na thri deg mil o gerddorion sy’n gweithio yn holl sectorau’r busnes cerddoriaeth. Yn ogystal â thrafod gyda’r holl brif gyflogwyr yn y diwydiant ar ran eu haelodau, mae’r Undeb hefyd yn cynnig amrediad o wasanaethau i gerddorion proffesiynol a myfyrwyr o bob oedran. www.musiciansunion.org.uk

UPC
Universal Product Code yw’r rhif cod-bar Americanaidd, ac fe’i defnyddir hefyd yn Ewrop.

VPL
Mudiad casglu'r DU yw Video Performance Limited, sy’n trwyddedu darllediad a pherfformiad cyhoeddus fideos cerddoriaeth. www.vpluk.com

Watermark (digidol)
Ffordd o adnabod ffeiliau digidol yw ‘watermarking’ yn ôl patrymau a ychwanegir at eu data. Cod yw’r ‘watermark’ y gellir ei ysgrifennu a’i ddarllen gan feddalwedd arbennig, i ddarganfod teitl a manylion eraill trac arbennig, a hynny mewn modd dibynadwy. Weithiau gelwir ‘watermarking’ (yn anghywir) yn ‘fingerprinting’.

Webcast
Darllediad o sioe gerdd neu berfformiad arall, wedi ei recordio ymlaen llaw neu fyw, dros y Rhyngrwyd.