Croeso i wefan y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig
Dyma dalp o athronyddu arwynebol i chi - dyw’r diwydiant cerddoriaeth, fel bywyd, ddim mor syml ag y mae’n ymddangos. Y Canwr neu’r Gân sy’n cael sylw’r rhan fwyaf o bobl, ond y tu ôl i bob cân lwyddiannus, pob ffrwydrad o gerddoriaeth newydd a phob taith stadiwm wefreiddiol, mae cant a mil o bethau’n digwydd – y ‘pethau eraill yna’ fel y’u gelwir yn aml.
Mae’r ‘pethau eraill yna’ yn cynnwys: ystafelloedd ymarfer, stiwdios, rheolwyr, cyfreithwyr, cynhyrchwyr, asiantiaid, hyrwyddwyr, cwmnïau dosbarthu… Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Ond heb yr elfennau hollbwysig hyn, waeth i chi anghofio’ch breuddwydion.
Yn y ‘pethau eraill yna’ rydyn ni’n rhagori. Y Welsh Music Foundation yw’r man cychwyn ar gyfer unigolion, busnesau bach a busnesau newydd sydd angen gwybodaeth am y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Yn y lle cyntaf, mae cysylltiadau – gadewch i ni gymryd eich bod chi’n artist sy’n chwilio am reolwr, yn rheolwr sy’n chwilio am label recordiau, yn label recordiau sy’n chwilio am gysylltiadau yn y cyfryngau, neu’n gwmni teledu sy’n chwilio am artist – ydych chi’n deall i’r dim…? Mae Cyfeirlyfr Cerddoriaeth Cymru’n cynnwys 1,700 o gysylltiadau mewn 65 categori.
Ar y wefan hon, gallwch chi gael gwybodaeth am seminarau a digwyddiadau, rhaglenni addysg a hyfforddiant a chyfleoedd marchnata a masnach ryngwladol, yn ogystal â gwaith y WMF wrth iddo gynrychioli buddiannau diwydiant cerddoriaeth Cymru i gyrff y diwydiant cerddoriaeth a gwneuthurwyr polisi ym Mae Caerdydd, San Steffan a thu hwnt.
Megis dechrau yw hyn – mae hefyd yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o bynciau a Chwestiynau Cyffredin y gall staff y WMF roi help llaw i chi yn eu cylch a manylion ynglŷn â sut gallwch chi fod yn rhan o esblygiad y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru trwy fod yn Rhanddeiliad, neu’n Ffrind i’r WMF.
Mae hyn yn golygu ein bod ni’n eitha’ prysur, felly does dim llawer o amser gyda ni i wrando ar demos, dosbarthu tannau gitâr am ddim neu roi benthyciadau i artistiaid brynu fan ar gyfer teithio. Ond rydyn ni’n barod iawn i gyfeirio unrhyw un at y bobl a allai roi help llaw…
Latest News & Press Releases
-
Statement from Barfly Cardiff
"After 10 years in the Welsh capital, Barfly has closed its doors for the last time. Over the decade, we've had the opportunity to present an array of extraordinary up'n'coming...
Darllen Mwy -
Cyrsiau byr Cult Cymru
Mae CULT Cymru wedi datblygu cyfres o weithdai ymarferol i weithwyr llawrydd a staff sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Y prif nod yw galluogi unigolion...
Darllen Mwy -
Diwrnod Cerddoriaeth Annibynnol 2010 – Dydd Sadwrn, Medi 18
Mae Diwrnod Cerddoriaeth Annibynnol 2010 yn ddathliad blynyddol o’r amrywiaeth a’r arloesedd sydd i’w weld ym mhob rhan o’r diwydiant Cerddoriaeth Annibynnol. Mae’r diwrnod,...
Darllen Mwy -
SEFYDLIAD CERDDORIAETH GYMREIG (SCG) CADEIRYDD GWEITHREDOL
SEFYDLIAD CERDDORIAETH GYMREIG (SCG) CADEIRYDDGWEITHREDOLSefydliad Cerddoriaeth Gymreig yw’r asiantaeth ddatblygu cerddoriaeth ar gyfer y diwydiantcerddoriaeth yng...
Darllen Mwy -
PRESS RELEASE : Welsh Music Foundation’s 10th birthday festivities
Datganiad i’r WasgFuture of the Left yn cael y prif sylw ar ddydd Gwener o gerddoriaeth ddi-dâl wrth i Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ddathlu ei ben-blwydd yn 10...
Darllen Mwy
Forthcoming Seminars & Events
-
SCG yn Ddeg Oed
Rydym yn dathlu pen-blwydd SCG yn 10 oed ym mis Medi ac rydym yn gweithio gyda Chanolfan Y Mileniwm i gynnal nifer o ddigwyddiadau yn yr adeilad eiconig yn ar Ddydd Gwener 10fed Medi a...
Darllen y Cyfan -
ID:10
Mae Independents Day 2010 nawr wedi ei aildrefnu ar gyfer Dydd Sadwrn, Medi 18fed 2010. Mae Independents Day yn ddathliad blynyddol o’r amrywiaeth a’r datblygiadau...
Darllen y Cyfan

