All The Right Mov(i)es : Getting your music in film and TV

Mae lleoedd yn prysur ddiflannu ar gyfer y seminar di-dâl yr ydym yn ei gynnal fel rhan o Ŵyl Ffilm Soundtrack.
Gan fod syncroneiddio cerddoriaeth yn faes sy’n cynnig cyfleoedd cynyddol i rai sy’n creu cerddoriaeth a deiliaid hawliau, mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn cyflwyno sesiwn sy’n edrych ar y dulliau gorau o gael cerddoriaeth ar y teledu, mewn ffilmiau a phlatfformau eraill.Yn dilyn digwyddiad y llynedd lle gwerthwyd pob tocyn, mae Stuart Worthington, Pennaeth Music Manager's Forum Training a chynghorydd i’r diwydiant, yn dychwelyd i gadeirio’r sesiwn gyda’r eglurder meddwl a’r wybodaeth sy’n sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn rhai mor llwyddiannus.Yn ymuno â Stuart bydd:
**Jonathan Goldstein, y cyfansoddwr arobryn ym myd ffilmiau, y teledu a’r theatr, sy’n Gadeirydd PCAM (Y Gymdeithas i Gynhyrchwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Gymhwysol).
**Mark Fishlock, Cadeirydd Pwyllgor Gweithredol y Cyfryngau BASCA (Academi Brydeinig Cyfansoddwyr ac Awduron Caneuon), sydd hefyd yn enwog fel cyfansoddwr ar gyfer y teledu a’r radio ac artistiaid eraill. A…
**Mae Amelia Hartley yn Arolygwr Cerddoriaeth yn Endemol UK a hi sy’n gyfrifol am yr holl gerddoriaeth a ddefnyddir ym mhob rhan o’r grŵp, yn cynnwys iTunes Festival, Big Brother, cyfres 1-10, Party in the Park, The Brit Awards, UK Music Hall of Fame, The Pepsi Chart Show, The Orange British Academy Film Awards a llawer iawn mwy.
Bydd panel o arbenigwyr o’r diwydiant yn rhannu
eu profiad ac yn cynnig cyngor a syniadau ymarferol ar sut i sicrhau ‘syncs’ a
chomisiynau, sut i gynhyrchu incwm o’ch cerddoriaeth yn y cyfryngau clyweledol a
datblygu eich opsiynau gyrfaol. Mae’r sesiwn yn anelu’n benodol at gyfansoddwyr,
artistiaid, labeli a chyhoeddwyr sydd eisiau archwilio’r llif refeniw hwn ac
sy’n chwilio am arweiniad mewn perthynas â’r camau nesaf i’w cymryd.Nid
oedd lle i bawb yn y sesiwn hon y llynedd felly cofiwch archebu cyn gynted ag y
gallwch. Mynediad am ddim.Cynhelir y sesiwn hon ar:
Ddydd
Gwener 20fed Tachwedd 2009
14:00 - 15:30
The Gate, Keppoch
Street, Y Rhath, Caerdydd, CF24 3JW
Cofrestrwch eich lle gyda : hello@welshmusicfoundation.com
PCAM - Y Gymdeithas i Gynhyrchwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth GymhwysolSefydlwyd PCAM yn wreiddiol ym 1982 dan yr enw SPAM ac erbyn heddiw gall ymfalchïo yn y ffaith fod y cyfansoddwyr mwyaf dylanwadol a thoreithiog ym myd hysbysebu ymysg ei aelodau, gyda thros gant ohonynt yn cynrychioli cannoedd o ‘ysgrifenwyr’. Mae PCAM yn grŵp uchel ei barch sydd yn ymroddedig i ymgyrchu dros hawliau cyfansoddwyr, nid yn unig ym myd hysbysebu ond hefyd yng ngherddoriaeth pob cyfrwng (neu gerddoriaeth “gymwysedig”). Mae’r sefydliad yn darparu canllawiau a modelau comisiynu.
BASCA - Academi Brydeinig Cyfansoddwyr ac Awduron CaneuonBASCA yw llais cyfansoddwyr cerddoriaeth – ac mae’n bodoli i gefnogi ac amddiffyn buddiannau artistig, proffesiynol, masnachol a hawlfraint ysgrifenwyr ac awduron caneuon a chyfansoddwyr pob genre o gerddoriaeth ac i ddathlu ac annog rhagoriaeth ym maes ysgrifennu cerddoriaeth ym Mhrydain.Gweler ein gwefan YMA i gael bywgraffiadau ein Siaradwyr….Gellir lawrlwytho
Rhaglen Soundtrack 2009 YMA. 18 - 22 Tachewedd 2009

